AC(4)2012(2) Papur 4 rhan 1

Dyddiad: Dydd Iau 8 Mawrth 2012
Amser:
    11.00 – 13.00
Lleoliad:  Swyddfa’r Llywydd
Enw a rhif cyswllt yr awdur:  Nicola Callow, est 8054

Strategaeth ar gyfer Cyllideb y Comisiwn 2013-16

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Mae’r papur hwn yn nodi’r dull a awgrymir o ran gweithredu Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2013-14 ac yn darparu ffigurau dangosol ar gyfer y blynyddoedd sy’n weddill o dymor y Pedwerydd Cynulliad (2014-15 a 2015-16).

2.0    Argymhellion

2.1     Bod Cyllideb 2013-14 yn cael ei pharatoi yn unol â’r ffigurau dangosol a nodir yn nogfen cyllideb 2012-13 ac yn unol â’r egwyddorion a nodir yn strategaeth y gyllideb yn Atodiad A.

2.2     Y gyllideb ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad yn 2013-14 yw £35.750 miliwn gyda £13.700 miliwn ar gyfer cyflogau a chostau Aelodau’r Cynulliad. Mae hwn yn gynnydd o 5.3 y cant o’i gymharu â Chyllideb 2012-13.

2.3     Gan y bydd y ddogfen gyllideb hon hefyd yn darparu ffigurau dangosol hyd at ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, bydd y Comisiynwyr am ystyried tybiaethau cynllunio yn y tymor hwy hefyd. Bydd hyn yn arbennig o bwysig os bydd y Comisiynwyr am ddilyn strategaeth wahanol ar gyfer y gyllideb yn unrhyw un o’r blynyddoedd sy’n weddill o’r Pedwerydd Cynulliad.

3.0    Ymgynghori

3.1     Bydd dull y Bwrdd Rheoli o adolygu cynnydd y gyllideb yn rheolaidd yn galluogi pob gwasanaeth yn y Cynulliad i gyfrannu at broses y gyllideb. Yn ychwanegol at hyn, bydd y Prif Weithredwr yn cynnal sesiynau gwybodaeth rheolaidd gyda staff y Comisiwn a bydd hyn, ynghyd â rhoi gwybodaeth ddiweddar yn rheolaidd drwy negeseuon e-bost a’r fewnrwyd, yn rhoi gwybod i staff am gynnydd y gyllideb.

3.2     Darperir adroddiadau rheolaidd gan y Bwrdd Taliadau er mwyn sicrhau bod y Comisiwn yn gwybod am unrhyw oblygiadau ariannol sy’n codi yn sgîl gwneud newidiadau i’r Penderfyniad.

3.3     Bydd y Comisiynwyr yn dymuno ystyried unrhyw gynlluniau i ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad a’u staff. Bydd proses y Gyllideb ar gyfer 2013-14 yn rhoi cyfle i gynnal cyfarfodydd unigol â phob Comisiynydd i gynorthwyo gyda’r broses hon. Gellir rhoi cyflwyniadau i’r pleidiau yn ôl y gofyn.

4.0    Trafodaeth

4.1     Disgwylir i’r gyllideb hon, yn nhrydedd flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad, barhau â’r duedd o ran twf a buddsoddi a ddechreuwyd yn 2012-13. Mae hyn yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Cyllid y dylai’r Comisiwn “…ailystyried ei gynigion cyllidebol, ar sail yr angen i sicrhau bod modd cyflwyno’r cynnydd y mae’n ei geisio, a hynny’n raddol dros gyfnod o 2-3 blynedd”.[1]

4.2     Mae darparu o fewn cyllideb ddangosol o £35.750 miliwn am Wasanaethau’r Cynulliad yn 2013-14 yn golygu y bydd angen cydbwyso unrhyw newid yn y gwariant gweithredu (cyflogau a chostau rhedeg) â’r swm sydd ar gael ar gyfer mentrau a phrosiectau buddsoddi. Bydd hyn yn berthnasol ar gyfer cyllidebau 2014-15 a 2015-16 hefyd. Y gyllideb a ddisgwylir ar gyfer y rhaglen fuddsoddi yw oddeutu £2.2 filiwn y flwyddyn.

4.3     Y Bwrdd Taliadau fydd yn parhau’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch cyflogau a chostau eraill Aelodau’r Cynulliad. Caiff unrhyw oblygiadau cyllidebol o ran penderfyniadau’r Bwrdd eu nodi wrth y Comisiwn.

5.0    Yr amserlen/camau nesaf

5.1     Bydd cyfarfodydd y Comisiwn ar 10 Mai a 28 Mehefin yn rhoi rhagor o gyfleoedd i Gomisiynwyr werthuso’r cynnydd o ran y gyllideb. Bydd angen gwneud y ddogfen gyllideb yn derfynol yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf. Cynigir y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb gyda’r pwyslais ar eu meysydd portffolio eu hunain i Gomisiynwyr mewn cyfarfodydd sydd i’w cynnal ym mis Mai a mis Medi.

 

5.2     Mae’r amserlen wedi’i chyflymu er mwyn sicrhau y ceir cyfraniadau a chytundeb y Comisiynwyr mewn da bryd cyn y cyfarfod ar 27 Medi, pan fydd gofyn am gymeradwyaeth ffurfiol gan y Comisiwn i osod cyllideb ddrafft 2013-14. Y diwrnod olaf ar gyfer gosod y ddogfen gyllideb yw 28 Medi 2012. Gellir gweld yr amserlen fanwl yn Atodiad B.

 



[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adroddiad: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-13, Pwyllgor Cyllid (y Pedwerydd Cynulliad), 20 Hydref 2011, Para 58.